Mark 12:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd yr Iesu yn eistedd gyferbyn ar tresorva, yr edrychawdd po’dd y bwriei y bopul arian ir dresorfa, a’ goludogion lawer a vwrient lawer y mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth eistedd gyferbyn â’r drysorfa, edrychai pa fodd yr oedd y dyrfa yn bwrw arian i’r drysorfa, a llawer o oludogion a fwriasant lawer;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi eistedd gyferbyn â’r drysorfa fe sylwai pa fodd y bwriai’r dorf bres i’r drysorfa; a llawer o gyfoethogion a fwriai lawer;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn â'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r y dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eisteddodd i lawr gyferbyn chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a eisteddodd gyferbyn a'r Drysorfa, ac a ddaliodd sylw pa fodd yr oedd y dorf yn bwrw arian i'r Drysorfa; a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.