Mark 12:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddaeth ryw vvreic weddw dlawt, ac a vwriodd y mywn ddau vitym, ys ef yw hatlin g.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod o ryw weddw dlawd, bwriodd ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a daeth rhyw weddw dlawd, a bwriodd ddwy hatling, hynny yw ffyrling.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.