Mark 12:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y galwodd ataw ei ddyscipulon, ac y dyuot wrthynt, Yn wir y dywedaf y chwi, vwrw o’r vvraic‐ weðw dlawt hon vwy ymewn, na’r oll ’rei a vwriesont i’r tresorfa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw ei ddisgyblion Atto, dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon a fwriodd fwy na’r holl rai a fwriasant i’r drysorfa,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd ei ddisgyblion ato, a dywedodd wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, y weddw dlawd hon, mwy a fwriodd na phawb o’r rhai sy’n bwrw i’r drysorfa;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriasant i'r drysorfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a alwodd ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriant i'r Drysorfa.