Mark 12:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yntwy oll a vwriesont y mewn o’r hyn sy yn‐gweddill ganthynt: a’ hi thei o hei thlodi a vwriodd y mewn gymeint oll ac oedd iddi, ysef i holl vywyt hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pawb o honynt hwy, o’u gorlawnder y bwriasant, ond hyhi o’i heisieu a fwriodd gymmaint ag oedd ganddi, ei holl fywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys hwy oll, o’u gweddill y bwriasant; ond hon, o’i hangen y bwriodd yr hyn oll a feddai, ei holl fywoliaeth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o'i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant i mewn o'u gor‐lawnder sydd ganddynt; ond hon o'i hangen a fwriodd i mewn yr oll, pa beth bynag a feddai, ei holl gynaliaeth.