Mark 12:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thrachefyn yd anuones ef vn arall, a hwnw a laddesont, a llawer ereill, gan vayddy ’rei, a’ lladd ’rhei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac un arall a ddanfonodd efe; a hwnw a laddasant; a llawer eraill, gan faeddu o honynt rai, a lladd y lleill.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac un arall a anfonodd; a hwnnw a laddasant; ac felly lawer eraill — curo rhai a lladd y lleill.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill — cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a anfonodd un arall; a hwnw hwy a laddasant: a llawer eraill; gan guro rhai, a lladd y lleill.