Mark 12:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac eto ydd oedd iddo vn map ei garedic: a’ hwnw a’ dd anvonawdd ef atynt yn ’ddywethaf, gan ddywedyt, VVy barchant vy map.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Etto yr oedd ganddo un, mab anwyl: danfonodd hwnw hefyd, yn ddiweddaf, attynt, gan ddywedyd, Parchant fy mab; ond hwythau, y llafurwyr, a ddywedasant i’w gilydd, Hwn yw’r etifedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Un eto oedd ganddo, mab annwyl; anfonodd ef yn olaf atynt, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a'i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu'n fawr. Yn y diwedd dyma fe'n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, 'Fe barchant fy mab'.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd ganddo eto un mab, ei anwylyd: efe a'i danfonodd ef atynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.