Mark 13:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC val ydd ai ef allan o’r Templ, y ’syganei vn o ei ddiscipulon wrthaw, Athro, gwyl pa ryw vain a’ pha ryw adeiladoedd ysy yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned o Hono allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion Wrtho, Athraw, wele, pa ryw feini, a pha ryw adeiladau sydd yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddo fynd allan o’r deml, fe ddywed un o’i ddisgyblion wrtho, “Athro, gwêl y fath feini, a’r fath adeiladau!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r deml, un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo fynd allan o'r deml, dyma un o'i ddisgyblion yn dweud wrtho, "Edrych, Athro, y fath feini enfawr a'r fath adeiladau gwych!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un o'i Ddysgyblion a ddywed wrtho, Athraw, gwel y fath feini, a'r fath adeiladau!