Mark 13:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan vont ich arwein ac ich ethrod, na rag ovelwch, ac na rac vefyriwch pa beth a ddywetoch: eithyr pa beth pynac a rodder y chwy yn y pryd hwnw, hynny ymadroddwch: can ys ny d chwi ys y yn ymadrodd, any d yr Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddygant chwi, gan eich traddodi, na rag-bryderwch pa beth a lefaroch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hyny llefarwch, canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr yr Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddygant chwi i’ch traddodi, na phryderwch rhag llaw beth a ddywedoch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, dywedwch hynny; canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, eithr yr Ysbryd Glân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan ddygant chwi, a'ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud pan gewch eich arestio a'ch rhoi ar brawf. Dwedwch beth fydd yn dod i chi ar y pryd, achos dim chi fydd yn siarad, ond yr Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan nt chwi i'ch traddodi, peidiwch phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan y'ch arweiniant chwi, gan eich traddodi, na fyddwch bryderus yn mlaen llaw pa beth a lefaroch: ond pa beth bynag a roddir i chwi yn yr awr hono, hyny lefarwch: canys nid chwychwi sydd yn llefaru, ond yr Yspryd Glân.