Mark 13:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyd pan weloch y ffiaið ðiffeithwch) ry ðywetpwyt o hanaw gan Ddaniel y Prophwyt) yn bot lle ny ddyly, (a’ i darllen, dyalled) yno yr ei a vont yn Iudaia, ciliant i’r mynyðe dd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan weloch “ffieidd-dra yr anghyfanedd-dra” yn sefyll lle na ddylai (y neb sy’n darllen, dealled), yna bydded i’r rhai sydd yn Iwdea, ffoi i’r mynyddoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan weloch ffieiddbeth y difrod yn sefyll lle ni ddylai (a ddarlleno, ystyried), yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi ei osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol' yn sefyll lle na ddylai fod" (dealled y darllenydd) "yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan weloch chwi ffieidd‐dra yr Anghyfanedd‐dra, yn sefyll yn y lle ni ddylai, (yr hwn a ddarlleno, ystyried), yna, y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd: