Mark 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepodd yr Iesu ac y dyuot wrthaw, A wely di yr adeiliadoeð mawrion hyn? ny’s gedir maen ar vaen, ar ny’s goyscerir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma, er dim, faen ar faen, yr hwn ni ddattodir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Weli di’r adeiladau mawr yma? Ni adewir maen ar faen a’r nis dymchwelir.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di'r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a'r nis datodir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Iesu wrtho, "A weli di'r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma o gwbl faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.