Mark 13:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra vo ei gangen eto yn dyner, ac e yn bagluraw dail, ys gwyddoch vot yr haf yn agos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan fo ei gangen ef wedi myned yn dyner, ac yn rhoddi allan ei ddail, gwyddoch mai agos yw’r haf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond oddiwrth y ffigyswydden dysgwch y ddameg: wedi’r êl ei changen weithian yn ir, ac y taflo ddail, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch y ddammeg: pan y mae ei ganghen eisioes wedi dyfod yn dyner, a'r dail yn tori allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos.