Mark 13:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am y dydd hwnw a’r awr ny’sgwyr vn dyn, na’r Angelion chwaith yr ei ’sy yn y nef, na’r Map yntef, n amyn y Tat yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond am y y dydd hwnw, neu yr awr, nid oes neb a ŵyr, nac yr angylion yn y nef, nac y Mab, na neb oddieithr y Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, ond y Tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion sydd yn y nef, na'r Mab, ond y Tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd — dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni u373?yr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr am y dydd hwnw, neu yr awr, ni ŵyr neb, na'r Angelion yn y Nef, na'r Mab, ond y Tâd.