Mark 13:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Map y dyn ys y val dyn yn ymddaith i wlad bell, ac yn gadael ei duy, ac yn rhoi awdurdot y’w weision, ac i bob vn ei waith, ac yn gorchymyn ir porthor wiliaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel gŵr yn ymdaith mewn gwlad ddieithr, wedi gadael ei dŷ, a rhoddi i’w weision awdurdod, i bob un ei waith, ac i’r drysawr y gorchymynodd wylied.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel dyn oddicartref a adawodd ei dŷ, ac a roes i’w weision yr awdurdod, i bob un ei waith; ac i’r porthor y gorchmynnodd wylio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i'r drysor wylio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fel dyn sy'n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae'n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae'n dweud wrth yr un sy'n gofalu am y drws i edrych allan amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei du375? a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae fel dyn wedi myned o'i wlad ei hun, wedi gadael ei dŷ, wedi rhoddi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith ei hun, ac a orchymynodd i'r drysawr wylio.