Mark 13:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwiliwch am hyny, (can na wyddoch pa bryd y daw Arglwydd y tuy, gan hwyr, ai am haner nos, ar ganiat y ceilioc, ai’r borae ddydd)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyliwch, gan hyny, canys ni wyddoch pa bryd y mae arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu’r boreuddydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyliwch gan hynny, canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai’r hwyr, ai hanner nos, ai’r plygain, ai’r bore;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai'r boreddydd;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl — gall ddod gyda'r nos, neu ganol nos, neu'n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch wyliadwrus gan hynny oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tu375?, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore iawn;