Mark 13:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys llawer a ddawant yn vy Enw i, can ddywedyt, Mi yw Christ, ac a’ twyllant lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer a ddeuant yn Fy enw I, gan ddywedyd, Myfi yw Efe; a llaweroedd a arweiniant hwy ar gyfeiliorn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llawer a ddaw yn fy enw i gan ddywedyd ‘Myfi yw’; a llawer a dwyllant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac fe dwyllant lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Efe, ac a arweiniant lawer ar gyfeiliorn.