Mark 13:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyd pan glywoch son am ryveloeð a’ darogan Ryueloedd, na’ch tralloder chvvi: can ys dir yw bot cyfryvv bethae: eithyr ny bydd y tervyn etwa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffroer chwi: y mae rhaid iddynt ddigwydd; eithr nid etto y mae’r diwedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywoch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, na chyffrowch; rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw'r diwedd eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu — mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywch am ryfeloedd a sn am ryfeloedd, peidiwch chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na ddychryner chwi; canys rhaid iddynt ddyfod: ond nid yw y diwedd eto.