Mark 13:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cenetl a gyvyt yn erbyn cenetl, a’ theyrnas yn erbyn teyrnas, ac e vydd daiar gryniadae mewn amryw leoedd, ac e vydd newynae a’ thrallodae: hyn vyðant ddechreuoedd y govidiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfaau mewn mannau: bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau, bydd newynau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfu mewn mannau. Bydd adegau o newyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfäau mewn amryw fanau; bydd newynau: