Mark 13:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid edrychwch arnoch eich hun: can ys wy ach rhoddant ir Seneddae, ac i’r Synogogae: ych bayddy a wneir, a’ch dwyn geyr bron llywyawdwyr a’ Brēhineð om pleit i, er testiolaeth yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond edrychwch chwi attoch eich hunain, canys traddodant chwi i’r cynghorau; ac yn y sunagogau y’ ch baeddir; a cher bron rhaglawiaid a brenhinoedd y sefwch o’m hachos I, yn dystiolaeth iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
dechreu gwewyr fydd hyn. Ond edrychwch chwi atoch eich hunain; traddodant chwi i gynghorau, ac mewn synagogau y’ch ffrewyllir, a cherbron llywodraethwyr a brenhinoedd y’ch gosodir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dechreuad gofidiau yw'r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cynghorau, ac i'r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gu373?ydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
dechreuad gwewyr yw y pethau hyn. Ond edrychwch atoch chwi eich hunain: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau ac i Synagogau; chwi a fflangellir; a chwi a sefwch gerbron llywodraethwyr a breninoedd o achos fy enw i, er tystiolaeth iddynt.