Mark 14:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AR ben y ddau ddydd gwedy ydd oeð y Pasc, a’ gvvyl y bara croyw: a’r Archoffeirieit a’r gwyr-llē a geisiesont pa ffordd y dalient ef trwy ðichell yw ladd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd y Pasg, a gwyl y bara croyw, ar ol deuddydd: a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, pa fodd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd y pasg a gŵyl y bara croyw ymhen deuddydd. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd trwy ddichell i gael gafael arno, a’i ladd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a'i ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y Pasg a gu373?yl y Bara Croyw ymhen deuddydd. Ac yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ddal trwy ddichell, a'i ladd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi deuddydd yr oedd y Pasc a'r Bara Croyw; a'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy gyfrwys ddichell, ac y lladdent ef: