Mark 14:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Iudas Iscariot, vn o’r dauddec aeth ymaith at yr Archoffeiriait, y’w vradychy ef yddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Iwdas Ishcariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, er mwyn Ei draddodi Ef iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac Iwdas Iscariot, yn un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid i’w fradychu ef iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth Jwdas Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg, at y prif offeiriaid i'w fradychu ef iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Judas Iscariot, yr hwn oedd un o'r Deuddeg, a aeth ymaith at yr Arch‐offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.