Mark 14:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywsont hynny, llawen vu ganthwynt, ac a aðawsont roddi ariant ydd aw: am hyny y casiawð pa vodd y gallei yn gymmwys y vradychy ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi clywed, a lawenychasant, ac a addawsant roddi iddo arian; a cheisio yr oedd efe pa fodd y byddai iddo yn gyfleus Ei draddodi Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau pan glywsant, bu lawen ganddynt; ac addawsant roi arian iddo. A cheisiai yntau pa fodd y câi gyfle i’w fradychu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wrth eu bodd pan glywon nhw beth oedd ganddo i'w ddweud, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Felly roedd yn edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywsant, yr oeddent yn llawen, ac addawsant roi arian iddo. A dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glywsant, bu lawen ganddynt, ac a addawsant roddi arian iddo. Ac efe a geisiodd pa fodd y gallai ar adeg gyfleus ei fradychu ef.