Mark 14:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dydd cyntaf o’r bara croyw, pan aberthynt y Pasch, y dyvot ei ddiscipulon wrthaw, I b’le y myny i ni vyned a’ pharatoi, i vwyta ohanat y Pasc?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dydd cyntaf o wyl y bara croyw, yr amser yr aberthent y Pasg, dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Pa le yr ewyllysi fyned o honom a pharottoi i Ti, i fwytta o Honot y Pasg?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan laddent oen y pasg, fe ddywed ei ddisgyblion wrtho, “Pa le y mynni i ni fynd i baratoi i ti i fwyta’r pasg?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta'r pasg?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi'n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? — i ni fynd yno i'w baratoi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddydd cyntaf gu373?yl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, "I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dydd cyntaf o'r Bara Croyw, pan yr aberthent y Pasc, ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, I ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned a pharotoi i ti i fwyta y Pasc?