Mark 14:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ myned ymaith o’i ddiscipulon, a dyvot ir dinas, a’ chaffael megis y dywedesei ef wrthynt, a’ pharatoi ’r Pasc a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth y disgyblion allan, a daethant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedodd Efe wrthynt; a pharottoisant y Pasg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y disgyblion ymaith, a deuthant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedasai ef wrthynt, a pharatoesant y pasg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i'r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i Ddysgyblion a aethant allan, ac a ddaethant i'r Ddinas, ac a gawsant megys y dywedasai efe wrthynt, ac a barotoisant y Pasc.