Mark 14:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oeddent yn eistedd ac yn bwyta, y dyvot yr Iesu, Yn wir y dywedaf ychwi, mae vn o honawch a’m bradycha, yr hwn ys ydd yn bwyta gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd yr Iesu, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I; yr hwn sy’n bwytta gyda Mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac â hwynt yn lledorwedd ac yn bwyta, dywedodd yr Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i — un sy’n bwyta gyda mi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a'm bradycha i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn eistedd wrth y bwrdd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i, sef yr hwn sydd yn bwyta gydâ mi.