Mark 14:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef atepodd ac a ddyvot yddwynt, Sef vn o’r dauddec yr hwn ys y ’n trochi gyd a mi yn y ddescil am bradycha.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda Mi yn y ddysgl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Un o’r deuddeg, un sy’n gwlychu gyda mi yn yr un ddysgl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Un o'r Deuddeg: yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddysgl.