Mark 14:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Map y dyn a ymaith, mal ydd escrivenir o hano: anid gwae ’r dyn hwnw, trwy ’r hwn y bradychir Map y dyn: da vysei ir dyn hwnw na anesir ef er ioet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mab y Dyn sydd yn myned, fel yr ysgriferiwyd am Dano: ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi: da fuasai iddo, pe nas ganesid y dyn hwnw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano; ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai iddo pe na anesid y dyn hwnnw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Mab y Dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano.; ond gwae i'r dyn hwnw, trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu! Da fuasai i hwnw pe nas ganesid ef.