Mark 14:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oeddent wy yn bwyta, y cymerth yr Iesu vara, a’ gwedy yddaw vendithiaw y tores, ac y rhoddes yddwynt, ac y dyvot, Cymerwch, bwytewch, hwn yw vy‐corph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fwytta o honynt, wedi cymmeryd bara, ac ei fendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt, a dywedodd, Cymmerwch: hwn yw Fy nghorph.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddynt fwyta, fe gymerth fara, ac wedi bendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt; a dywedodd, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi iddynt, a dweud, "Cymerwch; hwn yw fy nghorff."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a gymmerodd fara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch; hwn yw fy nghorff.