Mark 14:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e gymerth y cwpa n, a’ gwedy iddaw ddiolch, ef ei rhoddes ydd‐wynt, ac wy oll yvesont o hanaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd cwppan, ac wedi rhoi diolch, rhoddes iddynt; ac yfasant o hono, bob un.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe gymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, ac yfasant bawb ohono.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt, ac yfodd pawb ohono.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd gwpan, ac a ddiolchodd, ac a'i rhoddodd iddynt: a hwynt oll a yfasant o hono.