Mark 14:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot yddwynt, Y nos hon ich rhwystrir oll o’m pleit i: can ys scrifenedic yw, Trawaf y bugail, a’ goyscerir y deuait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch a dramgwyddir, canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir y defaid;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch meglir oll, canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a'r defaid a wasgerir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Trawaf y bugail, a gwasgerir y defaid.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywed wrthynt, chwi oll a rwystrir; canys y mae yn ysgrifenedig, Mi a darawaf y bugail, A'r defaid a wasgerir ar led.