Mark 14:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ytoedd ym-Bethania yn‐tuy Simon ’ohanglaf, ac ef yn eistedd wrth y vort, y deuth gwraic a chenthi vlwch o oleo spicnard gwerth‐vawr, a’ hi a dorawð y blwch, ac ei tywalldawdd am y ben ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan yr oedd Efe yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahanglwyfus, ac Efe yn ei led-orwedd, daeth gwraig a chanddi flwch alabastr o ennaint o nard gwlyb tra-chostus; ac wedi torri’r blwch alabastr, tywalltodd ef ar Ei ben Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd ef ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus yn lledorwedd i fwyta, fe ddaeth gwraig a chanddi flwch o ennaint nard pur drudfawr, a thorri’r blwch, a’i dywallt ar ei ben ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Tra roedd Iesu'n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhu375? Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y Gwahan‐glwyfus, ac yr eisteddai i fwyta, daeth gwraig a chanddi lestr alabaster o enaint o nard pur gwerthfawr; a hi a dorodd y llestr alabaster, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.