Mark 14:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthaw. Yn wir y dywedaf y ti, mae heddyw, ys ef y nos hon, cyn ny cano o’r ceiliawc ddwywaith, i’m gwedy dairgwaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Tydi, heddyw, yn y nos hon, cyn na fu i geiliog ddwy waith ganu, tair gwaith y gwedi Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yr Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, tydi heddyw, y noson hon, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, a’m gwedi deirgwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Iesu wrtho, "Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywed yr Iesu wrtho, Yn wir meddaf i ti, Tydi, heddyw, y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, a'm gwedi deirgwaith.