Mark 14:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac efe a ddyvot yn vwy o lawer, A’ phe gorvyddei arnaf varw gyd a thi, ni’th wadaf: ar vn ffynyt hefyt y dywedesont wy oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe yn ychwaneg dros ben a lefarodd, Os bydd rhaid i mi gydfarw â Thi, nis gwadaf Di ddim. A’r un modd hefyd yr oll o honynt a ddywedent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond mwy o lawer y dywedai yntau, “Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni’th wadaf byth.” A’r un modd y dywedent oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond taerai yntau'n fwy byth, "Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth." A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a lefarodd yn fwy taer o lawer, Pe gorfyddid i mi farw gydâ thi, ni'th wadaf o gwbl. A'r un modd y dywedasant oll.