Mark 14:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y dywot wy i van a enwit Gethsemane: yno y dyvot ef wrth ei ðiscipulon. Eisteddwch yma, tra vyðwyf yn gweddiaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant i le enw yr hwn oedd Gethshemane; a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Arhoswch yma nes gweddïo o Honof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuant i le o’r enw Gethsemane; ac eb ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra fwyf yn gweddïo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, "Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dyfod i lanerch o'r enw Gethsemane, ac efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddio.