Mark 14:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Abba Dad, pop peth ys ydd alluawl i ti: treigla ymaith y cwpan hwn ywrthyf: eithyr nyt hynn a vynwy vi, anid hynn a vynych di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bosibl i Ti: dwg heibio y cwppan hwn Oddiwrthyf: eithr nid y peth yr wyf fi yn ei ewyllysio, eithr y peth yr wyt Ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac meddai, “Abba Dad, popeth sy bosibl i ti; tro heibio’r cwpan hwn oddiwrthyf; eithr nid a fynnaf fi, ond a fynni di,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“ Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Abba! Dad!" meddai, "y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Abba, Dâd, pob peth sydd bosibl i ti: symud y cwpan hwn oddiwrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.