Mark 14:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddeuth ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ðyvyt wrth Petr, Simon, Ai cyscu ydd wyt? A ny ally‐t’ wyliaw vn awr?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth, a chafodd hwynt yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Shimon, ai cysgu yr wyt? oni allit, am un awr, wylied?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddaw, a’u cael hwynt yn cysgu; ac medd ef wrth Bedr, “Simon, ai cysgu’r wyt ti? Oni ellaist wylio un awr?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yn l a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, "Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dyfod ac yn eu cael hwy yn cysgu; ac a ddywed wrth Petr, Simon, a wyt ti yn cysgu? oni allit gadw yn effro un awr?