Mark 14:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny y sorawdd rei ynthynt ehunein, can ddywedyt, I pa beth y gwnaethpwyt y collet hyn ar oleo?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd rhai yn sorri ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, I ba beth y mae’r golled hon o’r ennaint wedi ei gwneuthur?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oedd rhai yn ddigllon yn eu plith eu hunain, “I ba beth y bu’r golled hon o’r ennaint?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o'r bobl oedd yno wedi digio go iawn — “Am wastraff!” medden nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, "I ba beth y bu'r gwastraff hwn ar yr ennaint?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr oedd rhai y bu ddigllawn ganddynt yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, I ba amcan y mae y golled hon o'r enaint wedi cymmeryd lle?