Mark 14:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac gwedy ymchwelyt o hanaw, ef a ei cafas wy drachefyn yn cyscu: can ys ydd oedd eu llygait yn drymion, ac ny wyddent beth a atepent ydd‐aw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrachefn, wedi dyfod attynt, y cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau, ac ni wyddent pa beth a attebent Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrachefn fe ddaeth, a’u cael hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid yn swrthdrwm; ac ni wyddent beth i’w ateb iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto — roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth yn l fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ddyfod drachefn, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau yn ddirfawr; ac ni wyddent beth i ateb iddo.