Mark 14:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddeuth y drydedd waith, ac a ddyvot wrthwynt, Cyscwch weithian, a’ gorphoyswch: digō yw: e ddeuth yr awr: nycha, y rhoddir Map y dyn yn‐dwylaw pechaturieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth y drydedd waith, a dywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorphwyswch: digon yw: daeth yr awr: wele, cael Ei draddodi y mae Mab y Dyn i ddwylaw’r pechaduriaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddaw y drydedd waith, ac medd ef wrthynt, “Cysgwch bellach a gorffwyswch; digon yw; daeth yr awr; dyma fradychu Mab y dyn i ddwylo’r pechaduriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, "A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dyfod y drydedd waith, ac yn dywedyt wrthynt, Cysgwch o hyn allan, a gorphwyswch: y mae yn mhell oddiwrthyf fi; daeth yr Awr: Wele, y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylaw pechaduriaid.