Mark 14:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man ac ef yn ymddiddan, y dauei Iudas yr hwn oedd vn o’r dauddec, ac gyd ac ef dyrfa vawr a chleddyfae a’ phastynae oywrth yr Archoffeiriait y Gwyr‐llen, a’r Henurieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn, ac Efe etto yn llefaru, daeth Iwdas, un o’r deuddeg, ac ynghydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y fan, ac ef eto’n llefaru, ymddengys Iwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o'r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o'r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd, ac efe eto yn llefaru, y mae Judas, un o'r Deuddeg yn dynesu, a chydâg ef dyrfa gydâ chleddyfau a bastynau oddiwrth yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'r Henuriaid.