Mark 14:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’rhwn y bradychesei ef, a roddesei amnaid yddwynt, can ddywedyt, Pwy’n bynac a’ gusanwyf, hwnw yw: deliswch ef ac ewch ac ef ymaith yn ðirgel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoisai yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnw yw; daliwch Ef, a dygwch ymaith yn sicr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymaith yn ddiogel.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn; arestiwch e, a'i gadw yn y ddalfa.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, "Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd ei Fradychwr ef wedi rhoddi iddynt arwydd‐nod, gan ddywedyd, Pwy bynag a gusanwyf, hwnw yw efe: deliwch ef, ac arweiniwch ef ymaith yn ddyogel.