Mark 14:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy ei ddyvot ef, ef aeth ataw yn y van, ac a ddyvot vvrthavv, Rabbi, Rabbi, ac ei cusanawdd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o hono, gan fyned yn uniawn Atto, dywedodd, Rabbi, a chusanodd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddaeth, ac yn y fan aeth ato, ac eb ef, “Rabbi,” ac fe’i cusanodd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, "Rabbi," a chusanodd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac y mae yn dywedyd wrtho, Rabbi, ac a'i cusanodd ef yn eofn.