Mark 14:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn o’r ei oedd yn sefyll yno, a dynnawð gleddyf, ac a drawodd ’was yr Archoffeiriat, ac a dorrawdd ei glust ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhyw un o’r rhai yn sefyll gerllaw, wedi tynu ei gleddyf, a darawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond rhywun o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw a dynnodd ei gleddyf ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorres ymaith ei glust ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ef.