Mark 14:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, Chwi ddaethoch allan megis at leitr, a chleðyfe ac a phastinae im dal ha i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Fel at leidr y daethoch allan â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Ai fel at leidr y deuthoch allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Iesu wrthynt, "Ai fel at leidr, chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megys yn erbyn yspeiliwr y daethoch allan, gydâ chleddyfau, a bastynau, i'm cymmeryd i?