Mark 14:49 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd oeddwn paunydd gyd a chwi yn traethy‐dysc yn y Templ, ac ny’m daliesoch: eithyr hynn ys ydd er cyflawny ’r Scrythurae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Peunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, yn dysgu, ac ni ddaliasoch Fi. Eithr — fel y cyflawner yr ysgrythyrau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beunydd yr oeddwn yn eich plith yn y deml yn dysgu, ac ni afaelasoch ynof; eithr cyflawner yr ysgrythyrau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni'r ysgrythurau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oeddwn i beunydd gydâ chwi yn y Deml yn dysgu, ac ni'm daliasoch: ond hyn a wnaed fel y cyflawnid yr Ysgrythyrau.