Mark 14:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
obleit ef allesit ei werthu er mwy na thrichant ceiniawc, a’ ei roddy ir tlotion, ac wy a ddigiesont wrthei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gallasai’r ennaint hwn gael ei werthu am uwch law tri chan denar, a’i roddi i’r tlodion. A ffrommasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gallasid gwerthu’r ennaint hwn am fwy na thri chan swllt, a’u rhoi i’r tlodion.” A chwyrnent arni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am ffortiwn a rhoi'r arian i bobl dlawd.” Roedden nhw'n gas iawn ati hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a'i roi i'r tlodion." Ac yr oeddent yn ei cheryddu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd fe a allasid gwerthu yr enaint hwn am fwy na thri chan denarion, a'i roddi i'r tlodion: a hwy a rwgnachasant yn uchel yn ei herbyn hi.