Mark 14:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a adawodd ei liain vvisc, ac a giliawdd y wrthwynt yn noeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daliasant ef: ac efe wedi gadael y lliain main, a ffodd yn noeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gadawodd yntau’r llenllïain, ac yn noeth y ffoes.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a adawodd y cwrlid o lian costfawr, ac a ffodd yn noeth.