Mark 14:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ducesont yr Iesu at yr Archoffeiriat, ac ato ef y deuth yr oll Archoffeiriait, a’r Henurieit, a’r Gwyr-llen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dygasant ymaith yr Iesu at yr archoffeiriad; a daeth ynghyd atto yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dygasant yr Iesu at yr archoffeiriad; ac fe ymgynnull yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a'r holl archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a arweiniasant ymaith yr Iesu at yr Arch‐offeiriad; a'r holl Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion ydynt yn dyfod ynghyd ato ef.