Mark 14:54 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr oedd yn y ddylyn ef o hir‐bell, yd y mewn llys yr Archoffeiriat, ac a eisteddawdd gyd a’r gwasanaethwyr, yn yndwymo wrth y tan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr oedd, o hirbell, yn Ei ganlyn Ef hyd tu mewn i gwrt yr archoffeiriad, ac yr oedd yn cyd-eistedd ynghyda’r gweinidogion, ac yn ymdwymno wrth y tân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A Phedr o bell a’i dilynodd ef hyd i mewn i neuadd yr archoffeiriad; ac yr oedd yn cydeistedd â’r gwasanaethyddion, ac yn ymdwymo wrth y tân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r gweision diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd tu fewn i Lŷs yr Arch‐offeiriad: ac yr oedd efe yn cyd eistedd gyda'r is‐swyddogion; ac yn ymdwymno wrth oleu y tân.