Mark 14:62 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot, Mi vi yw ef, a’ chewch weled Map y dyn yn eistedd ar ddehau gallu Dyvv, ac yn dawot yn wybrennae’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd, Myfi wyf: a chewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ynghyda chymmylau’r nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu, “Myfi yw; a chewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod gyda chymylau’r nef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu, "Myfi yw, 'ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau'r nef.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod gyd â chymylau y Nefoedd.