Mark 14:64 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Clywsoch y cabledigaeth: peth a dyb ig w‐chwi? Ac wynt oll a varnesont y vot ef yn euawc i angae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Clywsoch y gabledd. Pa beth a ymddengys i chwychwi? A hwy oll a’i condemniasant Ef Ei fod yn ddyledwr i farwolaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwi glywsoch y cabledd; beth debygwch chwi?” Hwythau oll a roes farn yn ei erbyn ei fod yn haeddu marw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi i gyd wedi ei glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?" A'u dedfryd gytn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwi a glywsoch y cabledd; beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant, ei fod yn euog o farwolaeth.